Blog

‘Mae Pontypridd yn Nature Reserve: a nature manifesto by young people for all in Pontypridd’ is available in Wenglish and

Mwy...

Cynhyrchwyd y llyfryn hwn gyda phobl ifanc yn Pontypridd fel rhan o NATURponty – y Pontypridd Prosiect Gwarchodfa Natur – prosiect celf sy’n dod ag artistiaid, gwyddonwyr a phobl ifanc gyda’i gilydd i drafod bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Trwy ddysgu am y natur sy’n byw o gwmpas ein tref a chwarae gyda syniadau newydd am yr amgylchedd a’n cyfrifoldeb tuag ato, rydym yn gobeithio ysbrydoli pawb i feddwl yn wahanol. Fel y dywedodd Dewi Sant – ‘Gwnewch y Pethau Bychain’, a gallem wneud gwahaniaeth MAWR!

Mae’r iaith yn y cyhoeddiad hwn yn Shwmraeg- Cymraeg gyda tipyn bach o Saesneg ynddo. Rydym wedi dewis i wneud hyn oherwydd ein bod ni’n byw mewn gwlad ddwyieithog. Mae yna rhai sydd dim ond yn deall ychydig o eiriau Cymraeg o arwyddion ffordd, ac mae yna rhai bobl eraill sy’n gallu ysgrifennu barddoniaeth yn Gymraeg! Os ydych chi’n dod o deulu Cymraeg, mynd i ysgol Gymraeg, neu’n ddysgwr, rydym yn gobeithio bydd y fersiwn Shwmraeg yma yn eich helpu i ddefnyddio’r Gymraeg gan beidio becso am geirfa newydd / gwyddonol. Os ydych chi eisiau rhannu hwn gyda rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg, ffeindiwch y fersiwn Wenglish ar ein gwefan! Rydym yn gobeithio bod y ffordd yma o plethu’r ddwy iaith gyda’i gilydd yn gallu adeiladu pontydd rhwng y Gymraeg, natur a’n cartref. Am fwy o wybodaeth ewch at naturponty.eu/maniffesto 

Os cewch eich ysbrydoli i ysgrifennu eich maniffesto/poster eich hun/ sloganau/syniadau, mae’r ffont arbennig rydym yn defnyddio –  wedi’i gynhyrchu gyda phobl ifanc fel rhan o’r prosiect –  ar gael i’w lawrlwytho yma: naturponty.eu/ffont/

Mae NATURponty yn brosiect partneriaeth rhwng yr artistiaid Anne-Mie Melis & Catrin Doyle, Pontydysgu & Addo, ac yn cael ei ariannu gan y cyllid Cysylltu & Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Tref Pontypridd, Dŵr Cymru, a Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.

Diolch i bawb a helpodd ni ar hyd y ffordd: YEPS RCT, Gofalwyr Ifanc RhCT, Hayley Richards, Liz Dean, Aled Humphries & Canolfan Calon Taf, Citrus Arts, Artis Cymuned, Parc Arts, Gardd Cymunedol Meadowstreet Stryd-y-Ddôl, Canolfan Valleys Kids Rhydyfelen, Coleg y Cymoedd Nantgarw, Coil Spoil Biodiversity Initiative & Liam Olds, Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru & Gareth Edge, Grŵp Ieuenctid & Beth Leach, Nature on your Doorstep & Ai-Lin, Glamorgan Fungus group & Mark Steer, y Cynghorydd Jayne Brencher, Ella Wilkinson, Dan Townsend,  Adele Nozedar, Simon ‘The Herbivore’ Matthew, Bridie Doyle-Roberts, Richard Huw Morgan, Ophelia dos Santos, Izzy McLeod, yr Athro Lynne Boddy, Aurelie ac Ashley o Stiwdio Osmose, Roger Lougher, Stephen Hanks, Tantrwm Media, Marijana Ninkovic-Morgan, Alaw Griffiths, Eurgain Haf, Gareth Bonello, Osian Andrew, Teifi Rowley, Kai Easter, Lucy Purrington a Damiaan Melis.

Diolch arbennig i’r bobl ifanc ysbrydoledig sydd helpu i wneud y llyfryn hwn yn realiti! Mae’r rhain yn cynnwys  pobl ifanc 8-25 oed o Fforwm Ieuenctid NATURponty:

Lucie Powell ac Isla, Alice Hanks-Doyle, Ewan a Daniel Wright, Elin & Mali Rees, Brandon Lear, Rowan, Isaac, Emily a’n intern hyfryd Rhiannon Barber! Diolch arbennig hefyd i bobl ifanc o Ganolfan Ieuenctid Ilan Rhydyfelin, Canolfan Ieuenctid Bryn Celynnog Beddau, Fforwm Ieuenctid Taf ac Ysgol Pontsionorton (chi’n gwybod pwy ydych chi!)