Hi all!
Helo bawb!
Thanks to all who joined us this summer for NATURponty, the Pontypridd Nature Reserve Project. It was so nice to meet young people in our area and begin to explore and learn about bats, insects, trees, foraging and fungi.
We thought you might like to know what’s happening over the next few months.
What’s On
Join our Youth Forum meetings in December – a chance to meet other young people interested in how to make a difference, share your views and influence local politicians and other decision makers.
December 4th at 12 o ‘clock: Calculating your Carbon footprint (online session) register here tinyurl.com/MLCfootprint
December 11th 11-3: a festive get-together with food, walking and Christmas crafts. https://www.eventbrite.com/e/
Work with us
We are recruiting! Are you an 18-25 year old looking for work experience in the arts, environment or project and events management? We are looking for a young person to work with the NATURponty team on a paid internship of approx 1 day a week for February-July 2023. Tasks could involve running social media campaigns, helping facilitate youth forum sessions, working on our website and brand, co-creating some activist-art or something different: we are interested to hear your creative ideas! For more information look at our website naturponty.eu, come to one of our events for an informal chat or get in touch at naturponty [at] gmail [dot] com
For more details and how to apply visit: naturponty.eu/
What to look out for
Migrating birds like Redwings and Waxwings are heading here from colder Northerly places like Iceland and Siberia – our local predators will be on the hunt for the smaller birds so look out for Peregrine Falcons, we hear there are some nesting near Beddau.
What you can do
Find us on Facebook, Instagram and Twitter, give us a follow and don’t forget to tag us in your nature photos.
Spotted some nature on your doorstep? Head to the interactive map on our website www.naturponty.eu and fill out the form to let us know.
Are you a youtuber or love to make presentations? Become a NATURponty tour guide for the Pontypridd nature reserve project and make a video to share! We can support you every step of the way, just get in touch on this email address
Diolch i bawb wnaeth ymuno â ni’r haf hwn ar gyfer NATURponty, Prosiect Gwarchodfa Natur Pontypridd. Roedd hi mor braf cwrdd â chymaint ohonoch chi er mwyn dechrau archwilio a dysgu am ystlumod, pryfed, coed, chwilota a ffyngau.
Meddylion ni efallai bysai diddordeb gyda chi mewn gwybod beth sydd gyda ni’n dod lan dros y misoedd nesaf.
Be Sydd Ymlaen
Ymunwch â’n cyfarfodydd Fforwm Ieuenctid ym mis Rhagfyr – cyfle i gwrdd â phobl ifanc eraill sydd â diddordeb mewn sut i wneud gwahaniaeth, rhannu eich barn a dylanwadu ar wleidyddion lleol a’r rheina sy’n gwneud penderfyniadau pwysig.
Rhagfyr y 4ydd am 12 o’r gloch: Cyfrifo eich Ôl-Troed Carbon (sesiwn ar-lein) cofnodwch diddordeb yma; tinyurl.com/MLCfootprint
Rhagfyr yr 11eg o 11yb-3yh: Hwyl y tymor gyda bwyd, cerdded a chrefftau Nadolig.
https://www.eventbrite.com/e/
Gweithiwch gyda ni
Rydym yn recriwtio! Ydych chi’n berson ifanc rhwng 18-25 oed sy’n chwilio am brofiad gwaith yn y celfyddydau, yr amgylchedd neu reoli prosiectau a digwyddiadau? Ni’n chwilio am berson ifanc i weithio gyda thîm NATURponty mewn rôl interniaeth, gyda thâl, oddeutu 1 diwrnod yr wythnos o fis Chwefror tan fis Gorffennaf 2023. Gall tasgau gynnwys rhedeg ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, helpu hwyluso sesiynau fforwm ieuenctid, gweithio ar ein gwefan a’n brand, cyd-greu celf actifydd neu rywbeth hollol wahanol: mae diddordeb gyda ni yn eich syniadau creadigol chi! Ewch at ein wefan naturponty.eu, dewch i un o’n digwyddiadau Rhagfyr am sgwrs anffurfiol, neu cysylltwch ar naturponty [at] gmail [dot] com
Am fwy o wybodaeth a sut i ymgeisio ewch at: naturponty.eu/gweithiwch-
Beth i gadw llygad allan amdano
Mae adar mudol fel y Coch Dan Adain a’r Cynffon Sidan yn teithio yma o lefydd oerach Gogleddol fel Gwlad yr Iâ a Siberia – bydd ein hysglyfaethwyr lleol yn chwilio am yr adar llai felly cadwch lygad am yr Hebogiaid Tramor, clywn fod rhai yn nythu ger Beddau.
Beth allwch chi wneud
Dewch o hyd i ni ar Facebook, Instagram a Twitter, dilynwch a chofiwch ein tagio mewn unrhyw luniau natur.
Ydych chi wedi darganfod rhywfaint o natur ar garreg eich drws? Ewch i’r map rhyngweithiol ar ein gwefan www.naturponty.eu a llenwch y ffurflen er mwyn roi gwybod i ni.
Dych chi’n youtiwbar neu’n caru gwneud cyflwyniadau? Dewch i dywys ymwelwyr o amgylch y gwarchodfa natur Pontypridd a rhannwch y fideos ar sianel youtube NATURponty! Cysylltwch â ni trwy ebost ac mi allem eich cefnogi chi naturponty [at] gmail [dot] com