Manyleb Swydd Intern

 

Gair Amdanom Ni

Grŵp bychan o weithredwyr yn y celfyddydau ydym ni, sy’n cnoi cil ar y syniad yma: beth petai Pontypridd yn Warchodfa Natur? Mae’r fenter NATURponty yn gweithio gyda phobol ifanc leol yn ogystal ag arbenigwyr ac artistiaid i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o ddysgu rhagor am y natur a’r fioamrywiaeth ym Mhontypridd.

Rydym ar drywydd intern i weithio ar y fenter ac i helpu i arwain y wedd Ieuenctid arni.

 

Gair Amdanoch Chi

Bydd gofyn i chi fod â chyfeiriad preswyl ym Mhontypridd

Bod yn 18-25 oed

Bod â phrawf o’ch hunaniaeth a’ch bod yn gallu gweithio yn y Deyrnas Unedig, megis Pasport neu Drwydded Yrru

Bod â rhif Yswiriant Gwladol.

Dal tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (gallwn ni eich helpu yn hyn o beth).

Gallu bod yn eiriolwr ieuenctid, yn weithiwr tîm a meddu ar fedrau hunandrefnu da.

Bod ar gael i weithio rhwng misoedd Chwefror a Gorffennaf 2023.

Ymddiddori yn y celfyddydau ac achosion yr amgylchedd a gweithio gyda phobol.

Bod yn barod i ddysgu medrau newydd.

Gallu rhannu eich syniadau a’ch barn ag artistiaid eraill a’r cyhoedd.

Mae gofyn i chi hefyd fod yn hyddysg mewn TG a chennych fedrau TG sylfaenol, h.y. ebost, Zoom / MS Teams. Byddwn yn gefn i’r ymgeisydd llwyddiannus o ran defnyddio cyfryngau digidol eraill rydych efallai heb brofiad ohonynt (h.y. ffilm, y cyfryngau cymdeithasol a dylunio).

Does dim angen unrhyw brofiad gwaith blaenorol.

Gair am y swydd

Am dridiau’r mis y mae’r swydd, o fis Chwefror tan fis Gorffennaf 2023. Mae’r oriau’n hyblyg ond bydd gofyn i chi fynd i gyfarfodydd a digwyddiadau.

Byddwn yn talu £150 y diwrnod.

Swydd lawrydd yw hon felly byddai gofyn i chi anfon anfoneb atom am eich amser. Os ydych heb erioed weithio yn y dull yma o’r blaen gallwn eich cefnogi chi i gael eich traed danoch.

Cewch eich mentora gan y tîm sy’n bobol broffesiynol greadigol ac yn artistiaid proffesiynol.

Gweithio gartref fydd y swydd gan mwyaf ond byddwch yn dod atom i gyfarfodd a gweithgareddau wyneb yn wyneb yng nghanolfan y fenter ym Mhontypridd.

Beth sydd dan sylw?

Gallai’r tasgau gynnwys cymysgedd o weithgareddau yn y cnawd yn ogystal ag o’r ddesg, er enghraifft: sgrifennu postiadau blog a diweddariadau yn y wefan; ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys; cynorthwyo i draddodi gweithdai; gweithgareddau yn y celfyddydau; gwneud podlediadau, ffilmiau a phethau eraill aml-gyfryngol; hyrwyddo a rhoi help llaw i redeg digwyddiadau; curadu man arddangos ac ennyn diddordeb pobol ifanc eraill yn y fenter.

Sut i wneud cais

Gan ddefnyddio un ochr A4/500 o eiriau neu lai

  • Dywedwch wrthym pan mae gennych ddiddordeb yn NATURponty
  • Soniwch wrthym am unrhyw brofiad neu ddiddordebau perthnasol sydd gennych

Ebostiwch eich cais atom ni erbyn pump o’r gloch yr hwyr ar 30 Rhagfyr 2022 naturponty [at] gmail [dot] com

 

Rhown wybod i’r ymgeiswyr ar y rhestr fer erbyn 11eg Ionawr 2023, rydym yn disgwyl y bydd y cyfweliadau’n digwydd ar 16eg Ionawr.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych am gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch ag Angela Karadog yn naturponty [at] gmail [dot] com

Intern Job Specification

 

About Us

We are a small group of art activists who are playing with the idea of what it would mean if Pontypridd was a Nature Reserve. The NATURponty project is working with local young people as well as experts and artists to find creative ways to learn about the nature and biodiversity in Pontypridd.

We are looking for an intern to work on the project and help guide the Youth perspective.

About You

You will need to have a residential address within Pontypridd

Be aged 18-25

Have proof of ID and ability to work in the UK such as a Passport or Driving License

Have an NI number.

Hold a current DBS certificate (we can help you with this).

Be able to be a youth advocate, a team worker and have good self-organisation skills.

Be available for work between February and July 2023.

Have an interest in the arts and environmental issues and working with people.

Be open to learning new skills.

Be able to share your ideas and opinions with other artists and the general public. 

You must also be IT literate and have basic IT skills, i.e. email, Zoom / MS Teams. We will support the successful applicant in using other digital media that you may not have experience of (i.e. film, social media and design). 

No previous work experience necessary. 

About the job

The role is for 3 days per month from February to July 2023. The hours are flexible but you will need to attend meetings and events. 

We will pay £150/day.

This is a Freelance role so you would have to invoice us for your time. If you have never worked in this way before we can support you to get set up.

You will be mentored by the team who are creative professionals and professional artists.

The work will be mainly home-based but you will join us for face-to-face meetings and activities at the project base in Pontypridd. 

What’s involved?

Tasks may include a mixture of in person as well as desk-based activities, for example: writing blog posts and website updates; social media campaigns and content creation; assisting in delivering workshops; arts activities; making podcasts, films and other multi-media; promoting and helping to run events; curating an exhibition space and engaging other young people in the project.

How to apply

Using up to one side of A4/500 words or less

  • Tell us why you are interested in NATURponty
  • Tell us about any relevant experience or interests you may have 

Email your application to us by 5pm on 30 December 2022 naturponty [at] gmail [dot] com

Shortlisted candidates will be notified by 11th January 2023, we expect interviews to take place on 16th January.

If you have any queries or would like an informal conversation about the role, please contact Angela Karadog at naturponty [at] gmail [dot] com