Meet our youngest tour guide, Finn, interviewing the hugely knowledgeable scientist Liam Olds for NATURponty.
Liam is an entomologist that studies the biodiversity of insects we have in the South Wales valleys, and is passionate about the coal tips in particular which by now are covered in unique wildflowers and extremely valuable as a habitat for rare insects.
Check out his amazing work @collieryspoil or www.collieryspoil.com for a truly good news story about spaces in nature that- although made by humans initially- are by now a haven and a sanctuary for many rare species.
Liam believes the coal spoils (or tips) are unique landscapes that we should protect for nature.
Dewch i gwrdd â’n harweinydd teithiau ieuaf, Finn, sy’n holi’r gwyddonydd aruthrol o wybodus, Liam Olds, ar ran NATURponty
Entomolegwr yw Liam, sy’n astudio bioamrywiaeth y pryfed sydd gennym yng nghymoedd y De, ac mae’n neilltuol o frwd dros y pyllau glo sydd bellach yn gyfor o flodau gwyllt unigryw ac sy’n hynod werthfawr yn gynefin pryfed prin.
Bwriwch olwg ar ei waith gwych @collieryspoil neu www.collieryspoil.com i gael stori newyddion wirioneddol dda am lecynnau mewn natur sydd – er mai dyn a’u gwnaeth i ddechrau – bellach yn lloches ac yn noddfa i lawer o rywogaethau prin.
Mae Liam yn credu bod y rwbel glo (neu’r tomenni) yn dirweddau unigryw y dylen ni eu gwarchod i natur
Long live the insects!
Hir oes i’r pryfed!
What can we do:
Plant meadow flowers, or just allow the weeds to grow in a patch of your garden. Some of our most hated weeds- like dandelions or ivy- are actually the best food for insects, so let them grow wild! Don’t worry if your garden is only concrete: pots of flowers and herbs will provide life-giving nectar to feed insects, and piles of old logs or bug hotels give them somewhere to live all year round.
Eat and wear organic clothes and food. Although it is more expensive, organic labels on food and clothes means no pesticides or chemical insect repellents have been used to grow the food or cotton, so it is worth the extra pennies for the wildlife we can protect. Save money elsewhere by buying second-hand clothes or cooking using raw ingredients rather than ready-made.
Be allwn ei wneud:
Plannu blodau’r gweunydd, neu ddim ond gadael i’r chwyn dyfu mewn llain o’ch gardd. Cofiwch fod rhai o’r chwyn sydd fwyaf cas gennym – fel dant y llew neu iorwg – y bwyd gorau i bryfed, felly gadewch iddyn nhw dyfu’n wyllt! Peidiwch â becso os yw’ch gardd yn ddim ond concrid: fe fydd potiau o flodau a pherlysiau’n cynnig neithdar bywhaol i fwydo pryfed, ac mae twrau o hen logiau neu westai clêr yn rhoi rhywle iddyn nhw fyw drwy’r flwyddyn gron.
Bwytwch fwyd organig a gwisgo dillad organig. Er eu bod yn ddrutach, mae labeli organig ar fwyd a dillad yn golygu na chafodd dim plaladdwyr na phethau ymlid pryfed cemegol eu defnyddio i dyfu’r bwyd neu’r cotwm, felly maen nhw’n werth y ceiniogau dros ben er mwyn y bywyd gwyllt y gallwn ni’i warchod. Gewch chi arbed arian fan arall drwy brynu dillad ail-law neu ddefnyddio pethau amrwd i goginio yn hytrach na pharod.
What do you do to help nature in the garden and in the wild?
Here at NATURponty we have been printing on secondhand not-new t-shirts as part of #buynothingnewday, encouraging people to reduce, re-use and recycle to support wildlife. Take a closer look at the bat designed by Catrin on this T-Shirt… you will see that they’ve eaten their own body weight in brown carder bees, six-banded clearwing moths, dingy skippers, and cats’ ear mining bees…all rare species that we are lucky to see on colliery spoils in Pontypridd.
Be fyddwch chi’n ei wneud i helpu natur yn yr ardd ac yn y gwyllt?
Yma yn NATURponty fe fuon ni’n printio ar grysau Ti ail law heb fod yn newydd yn rhan o #diwrnodprynudimbydnewydd, gydag annog pobol i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu i gefnogi bywyd gwyllt. Craffwch ar yr ystlum wedi’i ddylunio gan Catrin ar y crys Ti yma… fe welwch chi ei fod wedi bwyta gwerth pwysau ei gorff ei hun, yn gardwenyn llwyd, gwyfod cliradenydd chwerhesog, gwibwyr llwyd, a gwenyn turio clust y gath…i gyd yn rhywogaethau prin rydym yn lwcus ein bod yn eu gweld ar rwbel glofeydd ym Mhontypridd.