We’re so excited to announce the NATURponty Summer Gathering!
To say thank you to all our volunteers and Youth Forum members, NATURponty are having a Summer Gathering at the Brynffynon Arms Saturday 15th July (6.30pm til Late) with the beautiful backdrop of the ancient Llanwonno parish church.
Join Izzy McLeod at 6.30pm: a queer scientist and nature-loving artist whose work focuses on education around climate change. In this fascinating talk they will uncover hidden secrets as they look at the queerness of the fungi world!
At 8pm, Gareth Bonelo of ‘The Gentle Good’ will play music inspired by the Welsh landscape. A bird-watcher as a child, Gareth’s early love of nature is easy to hear in his Welsh and English lyrics and sweet melodies on the acoustic guitar.
At 9pm, join the NATURponty team for a night-time nature walk on the hills of Llanwonno – this uplands peatland habitat is a rich feeding ground for bats and birds, including the rare and unique night-jar!
Please dress to suit the weather and wear sturdy footwear and bring a torch and insect repellent.
Food and drinks will be available to order at the bar all evening. This event suits young people age 10+, children under 12 must be accompanied by an adult.
Rydym yn llawn cyffro o gyhoeddi Cynulliad Haf NATURponty!
I ddiolch i’n holl wirfoddolwyr ac aelodau ein Fforwm Ieuenctid, mae NATURponty yn cynnal Cynulliad Haf yn y Brynffynon Arms nos Sadwrn 15fed Gorffennaf (hanner awr wedi chwech tan Berfeddion) o flaen cefnlen hyfryd eglwys plwy Llanwynno.
Dewch at Izzy McLeod am hanner awr wedi chwech: gwyddonydd rhyfedd ac artist o naturgarwr y mae ei waith yn canolbwyntio ar addysg ynghlwm â newid hinsawdd. Yn y sgwrs gyfareddol yma byddant yn datgelu cyfrinachau cudd wrth fwrw golwg ar ryfeddodau byd ffyngau!
Am wyth o’r gloch bydd Gareth Bonelo o ‘The Gentle Good’ yn chwarae cerddoriaeth a ysbrydolwyd gan dirwedd Cymru. Roedd Gareth yn wyliwr adar ym more’i oes a hawdd clywed ei gariad cynnar at natur yng ngeiriau Cymraeg a Saesneg ei ganeuon a’i alawon pêr ar y gitâr acwstig.
Am naw o’r gloch dewch at dîm NATURponty i fynd am dro natur gefn nos ar fryniau Llanwynno – mae’r cynefin tir mawn mynyddig yma’n borfa fras i ystlumod ac adar, gan gynnwys gwalch y nos sydd mor brin!
Cofiwch wisgo amdanoch yn gydnaws â’r tywydd a rhoi sgidiau call am eich traed a dod â thortsh a pheth lladd pryfed. Bydd bwyd a diodydd ar gael i’w harchebu wrth y bar drwy’r gyda’r nos.
Mae’r digwyddiad yma’n addas i bobol ifanc deg oed a throsodd, rhaid i blant dan ddeuddeg fod yng nghwmni oedolyn.